Lein wahanol iawn i'r cyffredin.

Cysylltiad ffeibr llawn. Yn rhedeg ar hyd rheilffordd Cymru.

Rydym yn rhan o Trafnidiaeth Cymru. Rydym yn cynnig cludwr cysylltiad rhwydwaith capasiti uchel ar hyd lein ffeibr newydd ar hyd Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae gennym Bwerau Cod (Code Powers), fel y gallwn adeiladu ein rhwydwaith y tu hwnt i'r rheilffordd, lle bynnag yr hoffech i ni fod.

Ar y rhwydwaith v Ddim ar y rhwydwaith

Ar y rhwydwaith

Golyga ar y rhwydwaith eich bod eisoes ar ein llwybr craidd - yr asgwrn cefn sy'n rhedeg ar hyd Llinellau Craidd y Cymoedd ac i Fae Caerdydd. Mae'r gwaith caled eisoes wedi'i wneud. Fel arfer, mae cysylltiad yn fater o amserlennu, nid adeiladu.

Ddim ar y rhwydwaith

Golyga ddim ar y rhwydwaith eich bod yn agos at yr asgwrn cefn, nid arno. Bydd angen i ni adeiladu sbardun i'ch cyrraedd chi; cysylltiad. Mae'n golygu llawer o waith paratoi a chynllunio, ry'n ni wrth ein bodd gyda gwaith adeiladau anoddach. Mae llinellau amser yn rhifau go iawn, nid dyfalu: byddwn yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl a phryd.

Cadw'r bunt Gymreig yng Nghymru.

Rydym yn eiddo cyhoeddus trwy Trafnidiaeth Cymru. Felly mae pob punt o elw yn aros yma, er budd ein cymunedau ein hunain yn hytrach na chyfranddalwyr.

Ein stori ni

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

Cysylltu