Pam ffeibr?

Cysylltedd ffeibr llawn. Yn rhedeg ar hyd rheilffordd Cymru. Lein wahanol iawn i'r cyffredin. Er budd. Dim cyfranddalwyr.

  1. Two colleagues talking over coffee in a Transport for Wales office

    Er budd cyhoeddus, nid cyfranddalwyr

    Rydym yn eiddo cyhoeddus trwy Trafnidiaeth Cymru. Caiff pob punt o elw ei roi tuag at seilwaith trafnidiaeth a digidol Cymru.

    Ac mae hynny'n bwysig iawn mewn rhai o'r mannau y mae ein lein rheilffordd yn rhedeg drwyddynt. Mae creu gwell cysylltiad i gymunedau sy'n cael eu hanwybyddu yn eithriadol o bwysig i ni. Dyma, yn fwy na dim, yw'r rheswm am ein bodolaeth.

  2. A Transport for Wales train on the green, protected rail corridor

    Lein wahanol iawn i'r cyffredin.

    Mae ein darpariaeth ffeibr yn rhedeg ar lein wahanol i bob darparwr arall - pibelli i gludo band eang gwahanol, daear wahanol. Pe byddai band eang BT a Virgin yn diffodd ar yr un pryd, oherwydd eu bod yn rhannu’r un seilwaith, ni effeithir ar seilwaith ffeibr.

    Mae'r llwybr hwnnw ochr yn ochr â rheilffordd fyw, drydanol, sy'n ei gwneud yn un o'r coridorau a ddiogelir fwyaf yn y wlad. Nid oes unrhyw un yn ei adeiladu, yn cloddio nac yn tarfu arno heb gael caniatad Network Rail a TrC. Y rheilffordd yw un o'r lleoliadau mwyaf diogel i rwydwaith ffeibr.

  3. A new Transport for Wales train at Cardiff station

    Wedi'i adeiladu i oroesi

    Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar Trafnidiaeth Cymru, nid buddsoddwr a fyddai o bosib yn ystyried gwerthu er mwyn gwneud elw. Nid oes unrhyw bwysau gan unrhyw gwmni ecwiti preifat, dim risg caffael, dim gweinyddwr.

    Pan fydd angen adnewyddu eich contract, byddwn yma o hyd.

  4. A ffeibr engineer in a branded hi-vis vest on site

    Atebion gonest

    Nid oes gan ffeibr unrhyw gyfranddalwyr sy'n golygu bod eich blaenoriaethau ni yn gwbl wahanol. Gallwn ddweud y gwir wrth gwsmer am linellau amser, a datgan pam na allwn gynorthwyo. Byddwn yn cyfeirio cwsmeriaid at gystadleuwyr os mai hynny fyddai'n well ganddynt, ac yn rhoi mwy o amser i gyflawni gwaith os ydym yn gwybod nad yw'r amser gwreiddiol yn realistig.

    Yn ffeibr, nid yw tryloywder yn fath o farchnata. Dyma beth sy'n digwydd pan fydd y berthynas gyda chwsmeriaid yn bwysicach na unrhyw elw.

  5. Mae Prifysgol Caerdydd yn ymddiried ynddi

    “Mewn 35 mlynedd yn y sector technoleg, nid wyf erioed wedi gweld cwmni'n cyflawni prosiect o'r cymhlethdod hwn mewn cyfnod mor fyr. Nid yn unig oedden nhw am ennill y contract, roedden nhw am iddo fod yn llwyddiannus ysgubol hefyd.”

    Lee Evans, Cyfarwyddwr Cynorthwyol TG, Prifysgol Caerdydd.

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

Cysylltu